Pam ydw i wedi derbyn neges am Nifer Uchafswm yr Apwyntiadau a Ganiateir?

Gan ddibynnu ar osodiadau eich meddygfa, efallai bod uchafswm o apwyntiadau y gallwch eu trefnu. Bydd y nifer hwn yn cynnwys yr holl apwyntiadau rydych chi wedi’u trefnu, nid y rhai rydych chi wedi’u trefnu ar-lein yn unig. Ar ôl i chi gyrraedd yr uchafswm, ni chewch drefnu mwy o apwyntiadau ar-lein a bydd y neges "Rydych chi wedi cyrraedd uchafswm yr apwyntiadau a ganiateir. Bydd 'Ni chewch drefnu mwy o apwyntiadau ar hyn o bryd" yn ymddangos.

I drefnu mwy o apwyntiadau, adolygwch y rhestr o apwyntiadau rydych chi wedi’u trefnu ac, os oes angen, canslwch un o’r apwyntiadau, a fydd wedyn yn caniatáu i chi drefnu apwyntiad newydd.

Fel arall, cysylltwch â’ch meddygfa i drefnu apwyntiad arall.

Sylwer – I argraffu’r pwnc hwn, dewiswch y botwm argraffu yn y cornel uchaf ar y dde, a dilyn yr anogwyr ar y sgrin.